Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 26 Chwefror 2018
Amser:
15.05 -
16.58
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4508
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Vikki Howells AC Rhianon Passmore AC Lee Waters AC |
Tystion: |
Naomi Alleyne, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Huw David, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Geraint Hopkins, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
|
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Anthony Barrett - Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol Cymru Matthew Mortlock Dave Thomas |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
1.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft. Yn sgil cyfyngiadau amser, cytunodd yr Aelodau i ddychwelyd at y mater hwn yng nghyfarfod y Pwyllgor wythnos nesaf.
2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC ac Adam Price AC.
3.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.2 O ran y papurau a gafodd eu nodi, cytunwyd ar y camau penodol a ganlyn:
· Cynnal sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru ynghylch yr adolygiad o'r gwasanaeth awyr oddi mewn i Gymru rhwng Caerdydd ac Ynys Môn;
· Ysgrifennu at Gyfarwyddwr yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol yn gofyn am ragor o eglurder ynghylch y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru â gwasanaeth digidol Llywodraeth y DU;
· Ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a Chadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ynghylch elfennau codio'r rhaglen Hwb.
4.1 Fel rhan o'u hymchwiliad i blant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal, clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan y Cynghorydd Huw David, Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr); y Cynghorydd Geraint Hopkins, Dirprwy Lefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (ac Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf); a Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
4.2 Cytunodd y tystion i anfon gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â nifer o bwyntiau i gynorthwyo'r Pwyllgor gyda'i ymchwiliad.
5.1 Diwygiwyd y cynnig i gynnwys Eitem 1 o'r cyfarfod a gynhelir ar 5 Mawrth 2018, a chytunwyd arno.
6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.